Cwestiynau cyffredin
Y pethau mae pobl yn eu gofyn fwyaf. Os nad ydi'ch un chi yma, cysylltwch â ni.
Faint mae gwefan yn ei gostio?
Mae'n dibynnu ar y cwmpas. Mae gwefan llyfryn syml yn dechrau ar tua £1,000. Mae'r rhan fwyaf o brosiectau'n fwy cymhleth, felly da ni'n rhoi pris sefydlog i bob cleient ar ôl sgwrs fer am yr hyn sydd ei angen.
Faint o amser mae'n ei gymryd?
Fel arfer 4 i 8 wythnos o'r cychwyn i'r lansiad. Gall gwefannau llai fod yn gynt, a byddwch chi'n gweld cynnydd ar hyd y ffordd.
Ydach chi'n adeiladu ar WordPress?
Ydan, pryd bynnag mai dyna'r offeryn iawn. WordPress efo WooCommerce ydi'r ffit gorau yn aml i siopau ar-lein, ac mae gan lawer o gleientiaid wefan WordPress sy'n werth ei chadw'n barod. I wefannau symlach, weithiau da ni'n adeiladu ar fframwaith modern yn lle hynny, sy'n gyflym ac angen fawr ddim cynnal a chadw. Fe ddywedwn ni wrthoch chi pa un sy'n gweddu i'ch prosiect chi a pham.
Faint mae SEO yn ei gymryd i weithio?
Disgwyliwch dri i chwe mis cyn gweld canlyniadau ystyrlon. Mae'n araf ar y dechrau, ond yn wahanol i hysbysebion mae'n dal i weithio pan fyddwch chi'n stopio talu. Mae'n gweithio orau ar wefan sydd wedi'i hadeiladu'n dda.
Allwch chi helpu efo chwiliadau lleol fel “plymwr yn yr Wyddgrug”?
Gallwn. Mae SEO lleol yn rhan fawr o'r hyn da ni'n ei wneud. Da ni'n sefydlu eich gwefan, Proffil Busnes Google a'ch cynnwys fel eich bod chi'n ymddangos ar gyfer y trefi a'r gwasanaethau sydd o bwys i chi.
Dwi wedi trio Google Ads o'r blaen a gwastraffu arian. Pam fyddai hyn yn wahanol?
Fel arfer nid yr hysbysebion ydi'r broblem. Tudalen lanio wan, dilyn i fyny araf neu dracio gwael ydi hi. Da ni'n trwsio'r rheiny gyntaf, fel y gallwch weld o ba ymgyrch y daeth pob ymholiad.
Be mae'r cynllun misol yn ei gynnwys?
O tua £150 y mis: gwesteio, diweddariadau, newidiadau bach, monitro perfformiad a chefnogaeth flaenoriaeth. Does dim cytundeb hir, a gallwch ganslo gyda 30 diwrnod o rybudd.
Allwch chi adeiladu gwefan Gymraeg neu ddwyieithog?
Gallwn. Da ni'n adeiladu gwefannau dwyieithog, gan gynnwys y switsiwr iaith a'r gosodiadau chwilio, ac yn gweithio efo cyfieithydd Cymraeg go iawn yn hytrach na chyfieithu peirianyddol. Mae cyfieithu'n cael ei brisio ar wahân, felly dywedwch wrthon ni'n gynnar os oes ei angen arnoch.
Fydda i'n gallu diweddaru'r wefan fy hun?
Os da chi isio, gallwn ei sefydlu fel y gallwch olygu testun a lluniau eich hun. Mae'n well gan lawer o gleientiaid anfon neges sydyn aton ni a'i gadael i ni.
Hanner awr. Dim rhwymedigaeth.
Dywedwch wrthon ni am eich busnes ac fe ddywedwn ni'n onest be fyddai'n helpu, hyd yn oed os nad ni ydi hynny.